Rhondda ac Ogwr Plaid Cymru

Rhondda & Ogmore Plaid Cymru

Owen Cutler selected for new Rhondda & Ogwr constituency

Dewis ymgeisydd Plaid Cymru dros etholaeth newydd Rhondda ac Ogwr

Image: Owen Cutler

Plaid Cymru members in the Rhondda and Ogwr valleys have selected a young engineer living in Penrhiwfer to represent the party in the upcoming Westminster election.

Owen Cutler (photograph above) will contest the new seat and he hopes to win over new support for Plaid Cymru, especially from people who feel that politics has left them behind.

Owen Cutler said “I’m humbled that Plaid Cymru members in Rhondda & Ogwr have put their trust in me to put forward our party’s positive message to build stronger communities and a better Wales.

“The Rhondda and Ogwr valleys have communities with the highest poverty levels. Too many people have been discriminated against and excluded.

These valleys have had Labour men representing them for more than a hundred years. Labour run the council and represent us at the Senedd. And what’s the result? A good star rating in the poverty league tables.

From those struggling with the cost of living crisis and especially young people unable to get decent housing or local jobs, to those getting into debt for an education – so many people feel ignored by the political establishment and left behind.

“Having lived in a council house and having an understanding of the value of free school meals – I have a real appreciation of how daily life can be difficult. There aren’t enough people in decision making positions who come from backgrounds like ours.”

In his speech to Plaid Cymru members, Owen paid tribute to his gransha who sparked his early interest in politics. “He used to tell me stories about the miners strike and past events in the Rhondda like the Tonypandy riots – and it’s really important we have an understanding of our history if we are to build a better future.”

Speaking after the selection meeting which took place in Ystrad Rhondda Rugby Club, Owen said “I want our campaign to focus on the cost of living crisis, a green future with good job opportunities and I want to help highlight the unfair financial settlement Wales gets from Westminster. We have been ripped off on HS2 & the billions we are owed could go a long way in economic and health services investment. I also want to help people reconnect with politics. With so much corruption and so many established politicians embroiled in financial scandals and getting rich on the back of the job – from the new First Minister to way too many Westminster MPs, taking a stand against political corruption is a must if we are to rebuild our fragile democracy. The recent Comisiwn report into future constitutional options for Wales is very clear about the crisis our democracy is facing. Every single person who has a vote can take a stand for democracy and a better future for the valleys in this election with a vote for Plaid Cymru”

Owen was endorsed by former Plaid Rhondda Senedd Member Leanne Wood who said “Owen is intelligent, thoughtful and compassionate and I am proud to offer my support to him. He’ll be a real asset as a voice and advocate for people in the Rhondda & Ogwr and I’m looking forward to working with him in speaking up for those who are struggling.”

To contact Owen please use the Contact Form below.

Mae aelodau Plaid Cymru yng nghymoedd Rhondda ac Ogwr wedi dewis peiriannydd ifanc o Benrhiwfer i gynrychioli’r blaid yn yr etholiad nesaf i San Steffan.

Owen Cutler (ffotograff uchod) fydd yr ymgeisydd ar gyfer y sedd newydd ac mae e’n gobeithio denu cefnogwyr newydd at Blaid Cymru, yn enwedig o blith pobl sy’n teimlo fod gwleidyddiaeth wedi eu anghofio.

Dywedodd Owen: “Mae’n fraint bod aelodau’r Blaid yn Rhondda ac Ogwr wedi ymddiried ynof i i gyflwyno neges gadarnhaol ein plaid dros gymunedau cryfach a Chymru well.

“Mae cymoedd Rhondda ac Ogwr yn cynnwys cymunedau sydd â’r lefelau tlodi uchaf. Mae gormod o bobl yma sydd wedi profi camwahaniaethu ac allgáu.

“Gwŷr Llafur sydd wedi cynrychioli’r cymoedd hyn ers dros ganrif. Llafur sy’n rheoli’r cyngor ac yn ein cynrychioli ni yn y Senedd. A chanlyniad hyn? Seren aur yn y gynghrair dlodi.

“O’r bobl sy’n cael trafferth ymdopi â’r argyfwng costau byw, yn arbennig y bobl ifanc hynny sy’n methu dod o hyd i gartref teidi na swydd leol, i’r rheiny sy’n mynd i ddyled er mwyn derbyn addysg – mae cymaint o bobl yn teimlo’u bod yn cael eu hanwybyddu a’u gadael ar ôl gan y sefydliad gwleidyddol.

“Fel rhywun sydd wedi byw mewn tŷ cyngor, a rhywun sy’n deall gwerth prydau ysgol am ddim, rwy’n ymwybodol pa mor anodd gall bywyd bod dydd fod. Does dim digon o’r bobl sy’n penderfyniadau ar ein rhan yn dod o gefndiroedd tebyg i ni.”

Yn ei araith i aelodau Plaid Cymru, fe dalodd Owen deyrnged i’w dadcu a fu’n gyfrifol am ennyn ei ddiddordeb cynnar mewn gwleidyddiaeth. “Fe fyddai’n adrodd hanesion i mi am streic y glowyr, ac am ddigwyddiadau o orffennol y Rhondda fel terfysgoedd Tonypandy – mae’n hynod bwysig i ni ddeall ein gorffennol os ydym am greu dyfodol gwell.”

Gan siarad wedi’r cyfarfod dewis yng Nghlwb Rygbi Ystrad Rhondda, dywedodd Owen: “Rydw i am i’n hymgyrch ganolbwyntio ar yr argyfwng costau byw ac ar ddyfodol gwyrdd gyda chyfleoedd am swyddi da, ac rydw i hefyd eisiau tynnu sylw at y setliad ariannol annheg mae Cymru’n ei dderbyn gan San Steffan. Ryn ni wedi cael ein twyllo’n rhacs gan HS2 ac fe allai’r biliynau sy’n ddyledus i ni gael eu buddsoddi yn yr economi ac yn y gwasanaethau iechyd. Rydw i hefyd eisiau helpu pobl i ailgysylltu â gwleidyddiaeth. Gyda’r fath lygredd a chymaint o wleidyddion ynghlwm â sgandalau cyllid ac yn elwa’n ariannol o’u swyddi – o Brif Weinidog newydd Cymru i ASau di-ri yn San Steffan – mae gwir angen sefyll yn gadarn yn erbyn llygredd gwleidyddol os ydyn ni am ail-adeiladu’n democratiaeth fregus. Mae adroddiad diweddar y Comisiwn ar yr opsiynau cyfansoddiadol i Gymru yn y dyfodol yn glir iawn am yr argyfwng sy’n wynebu ein democratiaeth. Gall pob unigolyn sydd â phleidlais sefyll dros ddemocratiaeth a dyfodol gwell i’r cymoedd drwy bleidleisio dros Blaid Cymru yn yr etholiad hwn.”

Mae Owen wedi ennill cefnogaeth cyn-Aelod Senedd y Rhondda, Leanne Wood, a ddywedodd: “Mae Owen yn ddeallus, yn feddylgar ac yn garedig ac rwy’n falch i gynnig fy nghefnogaeth iddo. Bydd yn wir gaffaeliad – yn llais ac yn eiriolwr dros bobl Rhondda ac Ogwr – ac rwy’n edrych ymlaen at weithio gydag e i godi llais dros rheiny sy’n cael trafferth ymdopi.”

I gysylltu ag Owen defnyddiwch y ffurflen isod.

Cysylltu | Contact

Llun / Image: PLaid Cymru Poppy

Rhondda & Owgr Plaid Cymru

If you’d like to contact Rhondda & Ogwr Plaid Cymru, please don’t hesitate to use our contact form. 

Thank you for your interest. Diolch yn fawr.

    Social Media